
HafanAdnoddau![]() |
(Cerddi Cymraeg) Pennill ... yn dangos yr ymwared rhyfeddol ... i'n teyrnas pan oedd y Ffrancod wedi mordwyo i ymyl tir Iwerddongan Dienw / Anonymous (fl. 1796)Pennill ar 'Belle Isle March' yn dangos yr ymwared rhyfeddol a wnaeth y Brenin mawr i'n teyrnas pan oedd y Ffrancod wedi mordwyo i ymyl tir Iwerddon. A'u llongau yn llawn gwïr ac arfau ar feddwl dinistrio'r wlad, cododd storm o wynt mawr, yr hwn a chwthodd eu llongau mewn modd tra gwyrthiol rhag cyflawni eu hamcan, a braidd y bu eu bywyd yn ddihangol Lleoliad: Welsh Poetry of the French Revolution 1789–1805 SCROLL DOWN FOR ENGLISH TRANSLATIONTrigolion Brydain, lân buredig Drwy wir enwedig waith, Rhown fawl ar gyhoedd i Iôr y lluoedd Ar dir a moroedd maith, 'R Hwn sydd â'i hynod wir awdurdod Anorfod hyd y nef; Pob goruwchafiaeth sydd dan Ei helaeth Lywodraeth odiaeth Ef. Wrth dir Iwerddon draw, Dangosodd nerth Ei law, Diddymodd greulon ddrwg amcanion Gelynion fryntion fraw: Pan oedd eu llongau yn llawn o arfau Mal tyrau wrth y tir, Am dywallt gwirion waed Trigolion Iwerddon oll yn wir, Gwasgarodd Ef eu llu Uwchben y ddyfnfor du Trwy wyrth tra nerthol, anorchfygol, Rhyfeddol iawn a fu. Rhag cael eu h'wllys ar yr ynys Haelionus fu Ei law, Esgynnodd heddwch a mwyn dawelwch, Fe ddaliodd dristwch draw. TRANSLATION Inhabitants of virtuous and pure Britain, through true notable work, let us publicly praise the Lord of hosts on land and wide seas, He, whose wonderful true authority reaches invincibly unto heaven; every victory is under His extensive splendid government. He showed the power of His hand near Ireland, yonder, he undid the cruel, wicked intent of vile, dread enemies: when their ships were full of weapons like towers near land, about, indeed, to spill the innocent blood of all Ireland's inhabitants he scattered their host above the deep dark sea through a mighty, invincible miracle; it was most marvellous. lest the French should have their way on the island God's hand was generous, peace and gentle tranquillity arose, He kept sadness at bay.
|