
HafanProsiect![]() |
Dr Heather Williams![]() Cymrawd YmchwilYmunodd Heather Williams â staff y Ganolfan yn 2007 fel Cymrawd HÅ·n Pilcher. Ar hyn o bryd y mae'n gweithio ar brosiect Cymru a'r Chwyldro Ffrengig , gan ganolbwyntio ar gyfieithu. Y mae hyn yn caniatáu iddi gyfuno ei phrofiad o lenyddiaeth Ffrangeg gydag Astudiaethau Celtaidd. Ar ôl graddio mewn ieithoedd modern (Ffrangeg) o Goleg Santes Hilda, Prifysgol Rhydychen, cwblhaodd ei D.Phil. yno ar Stéphane Mallarmé. Bu'n Gymrawd Ymchwil Iau yn Rhydychen, a bu'n darlithio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgolion Nottingham ac Aberystwyth. Rousseau![]() A ysbrydolwyd y tirlun hwn gan Rousseau? Iolo Morganwg a chyfieithuFel rhan o fy ymchwil i gyfnewid diwylliannol rhwng Cymraeg, Ffrangeg a Saesneg yn dilyn y Chwyldro Ffrengig rwyf wedi edrych ar rôl cyfieithu yn Poems Lyric and Pastoral (1794) Iolo. Yn y casgliad hwn ceir sefyllfa anarferol iawn ble mae chwe llinell o Gymraeg yn troi yn bedair cerdd wahanol yn Saesneg. Cyhoeddir trafodaeth lawnach yn fy erthygl 'ranslation and the revolutionary space in Iolo Morganwg's Poems Lyric and Pastoral' (i ymddangos).Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru 1740–1918 VolneyFel rhan o fy ymchwil i gyfnewid diwylliannol rhwng Cymraeg, Ffrangeg a Saesneg yn dilyn y Chwyldro Ffrengig rwyf wedi ail-asesu'r dystiolaeth ar gyfieithiadau o Ruines Volney yn Saesneg a Chymraeg yn y 1790au. Cyhoeddir trafodaeth lawnach yn 'ymru, y Chwyldro Ffrengig a Gwyn Alf Williams: ail-asesu'r dystiolaeth', Llên Cymru (2012).Cysylltu a Detholiad o Gyhoeddiadau |