
HafanAdnoddau![]() |
(Baledi Cymraeg) Ychydig o hanes brenhines Ffrainc...gan Richard RobertsYchydig o hanes brenhines Ffrainc; y modd y cafodd ei difetha, sef torri ei phen a rhwymo ei dwy fraich ar ei chefn, Hydref 17, 1793 Lleoliad: Welsh Ballads of the French Revolution, rhif / no. 7 SCROLL DOWN FOR ENGLISH TRANSLATIONPob un sy â theimlad ynddo, Yn gywreindeg dowch i wrando – Rwy’n cwyno ar ganiad; Ni bu mewn gwlad na theyrnas Rai milain gwaeth eu malais, Drwy ddiras doriad. Mae Ffrainc heb frenin ar ei mainc, Na chwaith frenhines. (On’d tost yw’r hanes? – Wrth goffa ar gyffes mae’n abl crugo craig!) Nhw laddai’r ddau yn farw, Roedd hynny’n sorw saig. Fe ddaw rhyw ddial oddi draw – Mae Duw yn ddiau yn hogi’i gleddau; Nhw ddôn’ i’r ddalfa o waith eu briwiau braw; Gwaed gwirion sydd yn gweiddi Am eu rhoddi’n rhych y rhaw. Y frenhines a gadd garchar Dros flwyddyn hir a chwartar Mewn siambar sybwyll; Bu arni lawer eisiau Mewn tywyllwch ar amserau, Heb gynnau cannwyll. Hi wnaeth, pan oedd dan gyflwr caeth, Danfonai’i hunan at emprwr German, Swm mawr o arian, a hyn mewn ffwdan ffraeth, I gario ymlaen y rhyfel, Rhag mynd mewn gafel gwaeth. Mae Sbaen yn gryno efo’n graen, A Holand hwytha’, ac empres Russia, A brenin Prussia, a Lloegr (siwra’ sain), Er lladd rhai miloedd yno – Mae’n anhawdd rhifo rhain. . . . Duw a gadwo George ein brenin A’i ddeiliaid sy’n ei ddilyn Rhag gelyn gwaedlyd. Mae’r gwaedgwn melltigedig, Fuleiniaid rhy fileinig, Am ein cael i’r gofid. Duw Tri a safo’n hochr ni Rhag pob bradwriaeth (ddiffawd ddiffaith, Sy’n riwlio’n helaeth) ysywaeth heddyw sydd; A rheini’n llwyr, pe gallen’, A ollyngai’n gwaed ni’n lli. Duw’n ben a’n cadwo’n si{r rhag sen. Mae’n mawr bechodau’n eu galw yma, I’n rhoi mewn poenau a’n cael mewn dalfa don. Duw gadwo inni’n rhyddid, Bob munud bawb, Amen. TRANSLATION Everyone who is capable of feeling, wisely and fairly come and listen – I make my lament in song; there were never in country nor kingdom cruel ones of greater wickedness, through an infamous stroke. France is without a king upon its throne, nor yet a queen. (Is it not a pitiful story? – Commemorating it in a confession is enough to afflict a rock!) They killed both dead, that was a sorrowful dish. Some vengeance will come from yonder – God is doubtlessly whetting His sword; they will be brought to prison on account of their dreadful wounds; innocent blood is calling out for their being put in the shovel’s ditch. The queen was imprisoned for more than a long year and a quarter in the depth of a chamber; she suffered many needs in darkness at times, no candle being lit. She did, while she was in a confined condition, herself send to the German emperor a great sum of money, and this with ready speed, to continue the war, so as to prevent a situation of greater adversity. Spain as one shares our aspect, and Holland also, and the Russian empress, and the king of Prussia, and England (the most certain report), even though many thousands have been killed there – it is difficult to number them. . . . May God save George our king and his subjects who follow him from a bloody enemy. The cursed bloodhounds, excessively fierce villains, want to bring us to grief. May the Trinity stand on our side against every treachery (without blessing and wicked, which rules extensively) that exists, alas, today; and they would, if they could, completely let out our blood in a stream. May God as head keep us safe from abuse. Our great sins call them here to put us in torment and bring us to a tight prison. May God protect our liberties for us all every minute, Amen.
|