Hafan

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse 1789-1802

Marion Löffler, Welsh Responses to the French Revolution: Press and Public Discourse 1789–1802

Ni lwyddwyd i sefydlu papur newydd yng Nghymru nes yr ymddangosodd y Cambrian yn Abertawe ym 1804, ond dengys y detholiad hwn sut y derbyniodd y Cymry’r newyddion drwy’r cyfnodolion a fodolai ar y pryd, a sut y lleisient farn ynddynt, gan brotestio a thrafod cysyniadau gwleidyddol a diwylliannol newydd. Defnyddient y wasg gyfnodol a oedd o fewn eu cyrraedd, felly, i gyfrannu at y ddisgẃrs Brydeinig mewn ffordd unigryw, ddwyieithog.

Datgela’r testunau sut y defnyddid y papurau newydd i apelio at deyrngarwch yr ‘ancient Britons’ i amddiffyn Prydain, ac i atgyfnerthu awdurdod y wladwriaeth yn erbyn terfysgwyr a chynhyrfwyr. Eto i gyd, dysgir hefyd sut yr ymatebodd radicaliaid Cymru gan feirniadu’r un wladwriaeth Brydeinig a’i heglwys. Nid yw’r gyfrol hon yn cyflwyno hanes parod, sy’n portreadu Cymru gyfan fel gwlad chwyldroadol na theyrngarol. Yn hytrach ceisir gadael i’r Cymry adrodd y stori drwy’r testunau a gyhoeddwyd ganddynt.

Yn yr almanaciau Cymraeg – cyfnodolion hynaf y Cymry – cyhoeddid barddoniaeth a rhyddiaith mewn ymateb i ddigwyddiadau gwleidyddol, er nad ymddangosent ond unwaith y flwyddyn. Galluogent feirdd Cymry i gadw mewn cysylltiad drwy hysbysebu digwyddiadau diwylliannol, megis eisteddfodau, ac felly hybu’r teimlad o undod cenedlaethol.

I dderbyn y newyddion, dibynnai’r Cymry ar gyfnodolion Llundain ac yn enwedig ar bapurau newydd rhanbarthol Lloegr, ond cyhoeddai’r papurau wythnosol a argreffid yn agos i Glawdd Offa hefyd farddoniaeth, llythyrau, deisebau a hysbysebion o Gymru ac yn y Gymraeg. Papurau newydd megis y Chester Chronicle a’r Shrewsbury Chronicle, felly, oedd yr unig lwyfannau parhaol i boblogaeth Cymru leisio barn.

Yn bwysicaf oll, sefydlwyd cylchgronau radicalaidd Cymraeg gan dri ymneilltuwr Cymreig rhwng 1793 a 1796. Anelai golygyddion y Cylch-grawn Cynmraeg, Y Drysorfa Gymmysgedig ac Y Geirgrawn at oleuo ac addysgu eu cyd-wladwyr yn eu mamiaith. Ynddynt, trafodwyd pynciau llosg gwleidyddol a chrefyddol, cyhoeddwyd cyfieithiadau o weithiau awduron radicalaidd, megis Joseph Priestley a Benjamin Franklin, a phrintiwyd barddoniaeth radicalaidd Gymraeg. Byrhoedlog oeddent, yn wir, ond darllenid hwy yn eiddgar pan ymddangosent, a thrysorid copïau am ddegawdau, gan eu cylchredeg yn gyfrinachol ymhlith cylchoedd o gyfeillion radicalaidd.