Hafan

Prosiect

Lleoli Chwyldro: Bro, Llais, Cymuned 1780–1820


Aberystwyth 9–12 Gorffennaf 2012

Cynhaliwyd y gynhadledd hon ar y cyd rhwng Prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru; Canolfan Astudiaethau Rhamantaidd, Prifysgol Aberystwyth; ac Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe.

Bu'r gynhadledd hon yn archwilio’r berthynas rhwng newid a daearyddiaeth (lleoliad, tirwedd, cartograffeg, a gofod go iawn a dychmygol) yn ystod cyfnod y rhyfeloedd chwyldroadol. Sut daeth bwrlwm yr oes yn Ewrop i’r amlwg ar lawr gwlad? Sut oedd teyrngarwch cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol yn cael ei gyflyru gan dirweddau ac amgylcheddau penodol? Sut mae mesur teyrngarwch a gwrthsafiad mewn cymunedau gwledig, rhanbarthol, trefol a metropolitaidd penodol? Bydd y gynhadledd yn ceisio gosod ‘hanes’ mewn lleoliadau penodol, gan fapio cysylltiadau ar draws Ewrop, môr Iwerydd, a’r byd ehangach. Bydd hefyd yn ceisio ystyried ffurfiau dramatig Rhamantiaeth, chwyldro ac adwaith yn y cyfnod hwn. Gwahoddir cynadleddwyr i ystyried ystod o gynhyrchion diwylliannol, gwrthrychau materol a ffurfiau llenyddol gyda golwg ar ddatgelu sut brofiad oedd y ffenomenon amlffurf ‘Rhamantiaeth’ mewn mannau penodol.

Cafwyd tair prif ddarlith ddifyr. Y prif siaradwyr oedd yr Athro Nigel Leask o Glasgow, a draddododd bapur ar ‘Politics, poetics and patronage: Burns’s Highland Tour of 1787’; yr Athro John Barrell o Gaerefrog, a roddodd ddarlith dan y teitl ‘ “I know where that is”: the Place of Edward Pugh’; a’r Athro Claire Connolly o Gorc, a fu’n trafod ‘War, Ireland and the national tale’. Cafwyd papurau gan dros 40 o ysgolheigion rhyngwladol ar bynciau yn amrywio o ganeuon poblogaidd a phensaernïaeth tafarnau Llundain i nofelau Gothig, cynllunio gerddi, a thrydan – adlewyrchiad teg o amrywiaeth yr ymdriniaethau o agweddau ysgolheigaidd modern â’r cyfnod.

Daeth y gynhadledd i ben gyda grŵp dethol ond mentrus o gynrychiolwyr yn mynd ar daith fythgofiadwy i Abergwaun yn y glaw; ac yn sgrialu’n ddigon arswydus i lawr i Garregwastad, safle glaniad y Ffrancwyr yn 1797, lle bu’n agos i ni golli sêr ysgolheictod y 1790au (ond byddem wedi cyfansoddi baled pe bai hynny wedi digwydd, wrth gwrs). Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gynhadledd, ac yn enwedig i Angharad Elias ac Annie Carruthers am eu cymorth rhagorol yn trefnu.

I weld poster a rhaglen y gynhadledd ar wefan Prifysgol Cymru cliciwch yma.