
Hafan![]() |
![]() Cymru a'r Chwyldro FfrengigY Chwyldro Ffrengig oedd, heb os, digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop. Nid trefn cymdeithas yn unig a ansefydlogwyd ganddo ond iaith a syniadaeth yn ogystal. Gwyddom lawer, erbyn hyn, am effaith y Chwyldro a’i ganlyniadau ar ddiwylliant Prydain. Ond erys bylchau annisgwyl. Hyd yn oed mewn astudiaethau diweddar ar yr adwaith ‘Brydeinig’ i’r Chwyldro mae diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r ymatebion yn y rhanbarthau, gyda Chymru’n arbennig wedi cael ei hesgeuluso. Sut, felly, yr ymatebodd pobl Cymru i’r digwyddiadau cyffrous? Gyda chefnogaeth yr AHRC a Phrifysgol Cymru, mae’r prosiect ymchwil hwn yn archwilio effeithiau’r cyfnod arbennig hwn ar fywyd a llên ein gwlad. Bydd cyfres Cymru a’r Chwyldro Ffrengig yn cyhoeddi ystod eang o destunau sy’n adlewyrchu ymatebion i ddigwyddiadau’r dydd ar draws y rhychwant wleidyddol a chymdeithasol. Mewn baledi, cerddi, llythyrau, pregethau, dyddiaduron ac erthyglau papur newydd mae lleisiau Cymry’r cyfnod yn dweud y stori yn eu ffordd eu hunain. ![]() |